Cyflawni rhagoriaeth o ran caffael
Sefydlwyd y fframwaith SEWH gyntaf yn 2010 i fireinio a symleiddio prosesau caffael yn Ne Ddwyrain a Chanolbarth Cymru, gyda ffocws penodol ar beirianneg sifil ac adeiladu priffyrdd.
SEWH 1
2010 i 2013
131
o brojectau wedi’u dyfarnu werth
51m
SEWH 2
2014 i 2018
370
o brojectau wedi’u dyfarnu werth
102m
hyd yma
Astudiaethau achos projectau blaenorol
Astudiaeth achos : Adfywio Llwynbedw, Gogledd Caerdydd
Dan raglen Cynlluniau Adfywio Cymdogaethau (CAC) Cyngor Dinas Caerdydd, nod project canolfan siopa leol Llwynbedw, a gyflawnwyd gan ERH Communications & Civil Engineering, oedd gwella mynediad cyhoeddus at y ganolfan siopa.
Ymhlith y gwelliannau penodol oedd: croesfannau newydd i gerddwyr ac ail-leoli safle bws er diogelwch cyhoeddus; parcio mwy effeithlon; gwaredu camau ac ail-alinio a disodli’r cwrbyn presennol; cloddio troedffyrdd presennol a gafodd eu disodli gyda phafin blociau newydd a rhai a ail-ddefnyddiwyd; celfi stryd newydd gan gynnwys biniau, bolardiau a seddi; a rhagor o lystyfiant.
Her benodol yn ystod y project oedd sicrhau mynediad parhaus at eiddo i berchnogion busnes lleol drwy gynnal a chadw diogelwch y cyhoedd cyffredinol.
Gweler pdf yr astudiaeth achos llawn yma.Astudiaeth achos : Adfywio Ystâd Trowbridge Mawr, Llaneirwg, Caerdydd
Yn rhan o ymrwymiad Cyngor Dinas Caerdydd i wella cyflwr y stoc tai, cynhaliwyd adfywiad Ystâd Trowbridge Mawr gan ERH Communications & Civil Engineering.
Ymhlith y gwelliannau penodol oedd: datblygiad newydd yn cynnwys llawer o dai i deuluoedd; gwelliannau priffyrdd gan gynnwys ail-wynebu troedffyrdd/lonydd cerbydau; arafu traffig a goleuadau stryd gwell; grisiau a mynediad â ramp; gwelliannau i ardaloedd cymunedol; gwelliannau i gylïau; parcio gerddi blaen gyda waliau ffiniau newydd a rheiliau; a gwaith tirweddu er mwyn sicrhau gofodau agored gwell.
Her benodol oedd nifer y digwyddiadau’n ymwneud â throseddau, wnaeth effeithio ar iechyd a diogelwch y staff ar y safle. Cafodd hyn ei reoli’n effeithiol gyda’r awdurdod lleol a’r preswylwyr yn sicrhau bod y project wedi’i gyflawni o fewn y gyllideb ac yn brydlon.
Gweler pdf yr astudiaeth achos llawn yma.Astudiaeth achos : Gorsaf fysus Brynmawr, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent
Gwnaeth Cyngor Blaenau Gwent gomisiynu archwiliad o osodiad y safle bysus yn sgil mynediad gwael at ganol y dref. Dyfarnwyd cyllid gan Gynghrair Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru, gan alluogi Griffiths Civil Engineering and Construction i gyflawni’r project werth £500k.
Cynlluniwyd y rhaglen 22 wythnos i wneud yr orsaf fysus yn fwy diogel, yn fwy deniadol ac yn ffordd fwy cynaliadwy o gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Ymhlith y gwaith oedd: clirio’r safle; gwaith daear; gwaredu 1500m2 o arwyneb presennol ac ail-osod; gosod 1000m2 o ail-wynebu ffordd gwrth-danwydd; draenio; gwaith cyrbio ac adeiladu’r palmant. Yn ogystal â hyn, gosodwyd goleuadau traffig newydd, system teledu cylch cyfyng, system folardiau APRhA a goleuadau stryd gwell, cysgodfeydd bysus, safleoedd beics ac arwyddion.
Gwnaeth rhaglen rannol sicrhau bod yr orsaf fysus yn dal yn weithredol gydol y cyfnod heb lawer o darfu i fusnesau lleol.
Gweler pdf yr astudiaeth achos llawn yma.Astudiaeth achos : Adnewyddu pont droed y Mileniwm, Parc Bute, Caerdydd
Gydag oddeutu 22,000 o bobl yn ei chroesi bob wythnos, lleolir Pont Droed y Mileniwm ar y ffin rhwng ardaloedd Glan-yr-afon a Cathays, Caerdydd, ac mae ar draws yr Afon Taf, yn cynnig llwybr i gerddwyr a beicwyr rhwng Gerddi Sophia a Pharc Bute.
Penododd Cyngor Caerdydd Griffiths Civil Engineering and Construction i wneud y gwaith cynnal a chadw hanfodol werth £150k oedd ei angen (ers iddi gael ei hadeiladu yn 1999). Prif agweddau ar y project oedd; adnewyddu’r bont; blastio shot/grit; gosod arwyneb gwrth-ddŵr a gwrthlithro; PPG5 a chaniatâd amddiffyn rhag llifogydd. Roedd y bont ar gau yn ystod y project 10 wythnos a datblygwyd Cynllun Cysylltu â’r Gymuned i gyfathrebu â’r cyhoedd a busnesau lleol.
Her benodol oedd gorfod amgáu’r bont, yn unol â chanllawiau Atal Llygredd 5, i amddiffyn yr afon oddi tani.
Gweler pdf yr astudiaeth achos llawn yma.