Caffael priffyrdd cynaliadwy

Yn unol â Chyfarwyddebau Caffael yr UE a’r Rheoliadau Contract Cyhoeddus 2015, ynghyd â Datganiad Polisi Caffael Cymru, mae’r fframwaith SEWH yn cynnig llwybr cyfleus at y farchnad a chyfleoedd i gontractwyr allu buddsoddi’n gynnar, gyda ffocws penodol ar ddenu cyflenwyr o bob maint.

Mae’r fframwaith yn seiliedig ar flynyddoedd o ddysgu a rennir rhwng prynwyr a chyflenwyr, gan feithrin perthnasau hirdymor mewn amgylchedd o ymddiriedaeth tryloyw ar y cyd, a chydweithio.

Drwy gynnig dull caffael cyflym a hyblyg i brynwyr a chyflenwyr, mae’r llwyfan SEWH yn galluogi mynediad 24/7 at ddogfennau canllaw ar-lein, a’r cyfle i gymryd rhan mewn sawl gweithgor.

Caffael sy’n Gymdeithasol Gyfrifol

Canolbwyntio ar hyfforddiant a chyflogaeth leol

Ceisio partneriaid yn eu cymunedau lleol

Dilyn caffael gwyrdd a chynaliadwy



Ymrwymo i gyflogaeth foesol



Hyrwyddo llesiant yr ifanc a’r rhai sy’n agored i niwed

Meddwl yn lleol yn gyntaf!


Manteision ariannol

  • Llai o gostau contractwr a defnyddwyr
  • Uchafswm y cyfraddau wedi’u capio am 12 mis
  • Rhagor o arbedion drwy fân gystadleuaeth
  • Am ddim i’w ddefnyddio
  • Amrywiaeth o gontractau
  • Amrywiaeth o fodelau prisio

Manteision effeithlonrwydd

  • Fframwaith hyblyg sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • Llai o amser arwain (o’i gymharu â Chyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (CSUE) llawn)
  • Cyflenwyr sy’n benodol i’r sector
  • Cam 2 ymgysylltiad cynnar â’r contractwr
  • Mynediad 24/7 at y platfform
  • Cymorth i’r Tîm Rheoli Fframwaith

Manteision cymunedol

  • Ceisio partneriaid lleol
  • Ardoll gwerth cymdeithasol hanfodol a DPC (dangosyddion perfformiad craidd)
  • Perthnasol i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Mynediad at hyfforddiant lleol
  • Cynaliadwyedd o ran y gadwyn gyflenwi
  • Caffael gwyrdd a chynaliadwy
  • Ymrwymo i gyflogaeth foesol
  • Hyrwyddo llesiant yr ifanc a’r rhai sy’n agored i niwed

Manteision arfer gorau

  • Canllawiau defnyddwyr manwl
  • Llawer o ddogfennaeth cyffredin
  • Canllawiau a chyngor cyfreithiol
  • Rheoli Perfformiad
  • Gwelliant Parhaus
  • Arfer gorau a meincnodi a rennir
  • Cydweithio â’r NACF