Nid yw gwefan Fframweithiau Cydweithrediaeth De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru yn cadw neu’n storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy’n pori’r wefan, oni bai pan fyddwch chi’n wirfoddol yn dewis rhoi eich manylion personol i ni drwy’r cyfeiriadau e-bost ar y wefan. Y cyfeiriadau e-bost hyn fydd yr unig le lle cesglir y wybodaeth hon. Bydd gwybodaeth a ddarperir yn y cyfeiriadau e-bost hyn yn cael ei defnyddio at y diben y cafodd ei chasglu. Byddwn hefyd yn monitro unrhyw negeseuon e-bost a anfonir atom ni, gan gynnwys atodiadau ffeil, i wirio am firysau neu feddalwedd maleisus. Cofiwch fod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost yr ydych yn ei anfon yn gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir er mwyn cofrestru ar y wefan:

Wrth gofrestru i gael mynediad at y ddogfennaeth Fframwaith ar y wefan, bydd Fframweithiau Cydweithrediaeth De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru’n cael eu storio gan ‘Reolydd Data’ Rheolwyr Fframwaith ar rwydwaith diogel Cyngor Caerdydd. Ymhlith y wybodaeth a gesglir fydd enwau, cyfeiriadau e-bost a’r cyfrinair cyntaf a roddir pan fyddwch yn cael eich sefydlu, a bydd angen ei newid unwaith yr ydych yn mewngofnodi am y tro cyntaf. Bydd datgelu’r wybodaeth hon yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Darperir y wybodaeth hon i’r Tîm Rheoli Fframwaith a phan does dim angen cadw’r wybodaeth hon mwyach, bydd yn cael ei gwaredu mewn modd ddiogel.

Dull Adrodd Dangosydd Perfformiad Craidd (DPC) Ar-lein

Wrth gofrestru ar y Fframwaith, bydd disgwyl i Gleientiaid a Chontractwyr uwchlwytho eu canlyniadau DPC ar y rhan o’r wefan sydd angen cyfrinair i fynd ati. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i ffurfio tabl Cynghrair o sut mae’r Contractwyr yn perfformio. Bydd y tabl ar gael i’r holl Gontractwyr, a’r wybodaeth a gyflwynir yma fydd enw’r Contractwr a’i sgôr ar y tabl. Bydd y wybodaeth a gesglir i greu’r sgôr yn cael ei rhannu â’r Contractwyr y mae’r wybodaeth amdano’n unig. Caiff y wybodaeth ei rheoli gan y Rheolwyr Fframwaith a’i storio ar y wefan “Prosesydd Data” trydydd parti. Caiff y data hwn ei storio’n ddiogel ac yn unol â’r RhDDC.

Astudiaethau achos

Bydd Fframwaith Cydweithrediaeth De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru’n cyflwyno’r astudiaethau achos ar y wefan i roi diweddariadau ac enghreifftiau o’r arferion da a gyflawnir drwy’r Fframwaith. Bydd y Tîm Rheoli Fframwaith yn casglu’r data, astudiaethau achos a thystebau er mwyn eu cyhoeddi ar y safle. Bydd y Tîm Fframwaith yn gofyn am y data, ac ni fydd yn cael ei gyflwyno heb ganiatâd y Contractwr/Cleient neu’r Unigolyn y mae’r wybodaeth amdano ymlaen llaw. Ni fydd y wybodaeth a gyflwynir yn cynnwys unrhyw ddata personol.

Cyfryngau Cymdeithasol

Nid yw tudalennau cyfryngau cymdeithasol Fframwaith Cydweithrediaeth De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru yn cadw neu’n storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion oni bai am weithgareddau a gesglir gan yr ystadegau cynnal cyfryngau cymdeithasol megis argraffiadau, barn neu ymgysylltu. Ni fydd y Tîm Rheoli Fframwaith yn casglu unrhyw ddata o’r cyfryngau cymdeithasol oni bai y ceir caniatâd gan yr unigolyn dan sylw ymlaen llaw.