Ymwadiad: Er bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gyhoeddus, ei phrif fwriad yw cael ei defnyddio gan y cleientiaid a’r cyflenwyr a gymerodd ran yn y broses dendro ac sy’n gorfod glynu at delerau’r cytundeb fel y’i nodir yn y cytundeb mynediad a chanllawiau defnyddwyr.
Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud pob ymdrech i gynnal cywirdeb y wybodaeth ar y wefan hon, ond nid yw’n gallu derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu niweidio all ddigwydd wrth ddefnyddio’r wybodaeth hon. Felly, mae defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich risg eich hun.
Nid yw Cyngor Caerdydd yn rheoli ansawdd dolenni allanol, a nid oes ganddo gyfrifoldeb dros gynnwys safleoedd cysylltiedig o’r fath. Ni ddylid cymryd bod enw unrhyw drydydd parti ar y tudalennau hyn yn argymhelliad neu’n arnodi cynnyrch a / neu gwasanaethau’r cynnyrch hwnnw.
Gall defnydd anawdurdodedig o’r wefan hon arwain at hawliad am niwed a/neu fod yn drosedd.
Mae’ch defnydd chi o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod yn deillio o ddefnydd o’r fath, yn amodol ar gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Cyflwyno ffurflen ymholiad ddiogel
Er mwyn cyflwyno eich Ffurflen Ymholi Ar-lein i ni i’w hystyried, mae angen i ni drosglwyddo eich data personol dros y rhyngrwyd. Rydym wedi rhoi prosesau corfforol, trydanol a rheolaethol ar waith i ddiogelu gwybodaeth o’r fath gan ddefnyddio technoleg Encryptio 128-bit diogel (SSL).
Deddf Diogelu Data 1998 – Caniatâd a Chadarnhau Manylion
Bydd y data personol yr ydych yn ei gyflwyno ar y ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ymateb i’ch ymholiad mewn perthynas â’r fframwaith caffael SEWSCAP neu SEWH. Gellid ei ddefnyddio hefyd at ddibenion ystadegol ac yn benodol ein polisi cydraddoldeb integredig. Bydd y data’n cael ei storio ar gyfrifiadur a/neu ffeiliau corfforol.
Er mwyn gweinyddu hyn gall Cyngor Caerdydd rannu eich data personol gydag Arts Factory Rhondda a’u sefydliad cynnal ar y we, Amity Web Solutions.
Ni fydd eich manylion Personol yn cael eu rhannu ag unrhyw sefydliad arall heb eich caniatâd, oni bai bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i’w rhannu, neu ei fod yn gysylltiedig â Chyngor Caerdydd.
Drwy lenwi Ffurflen Ymholiadau Ar-lein, rydych yn cadarnhau eich caniatâd i alluogi Cyngor Caerdydd i gofnodi a phrosesu’r wybodaeth a nodir yn y Ffurflen Ymholiadau. Rydych hefyd yn cadarnhau bod y wybodaeth yn y ffurflen gais yn gywir. Bydd ffurflenni ymholi’n fyw am 12 mis yn y Cyngor, ac yna’n cael eu dinistrio. Gall rhoi gwybodaeth ffug, ar ddisgresiwn y Cyngor, arwain at eich gwahardd chi rhag defnyddio’r fframwaith neu’ch contract yn cael ei ddirymu.
Mae gan yr awdurdod hwn ddyletswydd i amddiffyn y gronfa gyhoeddus y mae'n ei gweinyddu, ac i'r perwyl hwn gall ddefnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon er mwyn atal a datgelu twyll. Gall hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu'r gronfa gyhoeddus at y dibenion hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch destun cryno ein Hysbysiad Prosesu Teg yn https://www.cardiff.gov.uk/CYM... a'r Hysbysiad Prosesu Teg Cyflawn ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru neu cysylltwch â:
Rheolwr Diogelu Data, Ystafell 356, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW. Ffôn: (029) 20873346.
Hawlfraint
Mae’r wefan hon yn destun hawlfraint. Caiff ei gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd ac mae un ai’n eiddo i’r Cyngor neu’n drwyddedig i’r Cyngor. Mae ar gael i chi ar delerau gan gynnwys (ac mae’r canlynol yn berthnasol i holl neu ran o’r safle):
- mae ar gyfer eich defnydd personol eich hun yn unig;
- ni chewch ei gopïo na’i drosglwyddo neu ei ailgynhyrchu fel arall na’i wneud ar gael heblaw am ei lawrlwytho ar un cyfrifiadur a’i weld at ddibenion preifat yn unig;
- ni chewch, heblaw am gyda chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw, ei rannu na’i ecsbloetio’n fasnachol; ni chewch ei drosglwyddo na’i wneud ar gael ar rwydwaith heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw;
- mae ei ddefnyddio ar eich risg eich hun.