SEWH - Trosolwg o’r Fframwaith

Croeso i SEWH – Cydweithrediaeth Peirianneg Sifil ac Adeiladu Priffyrdd De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru. Ar ôl ei lwyddiant fel fframwaith adeiladu cydweithredol, hwn yw trydydd fersiwn y fframwaith sifil a phriffyrdd yng Nghymru.

Mae SEWH yn dwyn ynghyd arbenigedd contractwyr bychan, canolig a mawr profiadol sydd wedi cymhwyso ymlaen llaw ar waith adeiladu priffyrdd a pheirianneg sifil amrywiol, gan gynnwys cynnal a chadw, ailwynebu a gwaith project.

Ei nod yw cyflawni trefniadau gwerth gorau i dde-ddwyrain a chanolbarth Cymru drwy gaffael cystadleuol, wrth arwain ar adfywio, gwelliant parhaus ac arfer gorau.

Anogir cyflenwyr i gydweithio mewn diwylliant cydweithredol o amcanion, prosesau a dulliau a rennir, fydd yn sylweddol yn lleihau’r costau a’r gwaith papur oedd yn arfer bod ynghlwm wrth dendro; ac yn arwain at rannu incwm mewn modd tecach rhwng cyflenwyr bach a mawr.

Egwyddorion craidd

Core Principles Welsh With Text

Mae’r fframwaith ar agor i 10 awdurdod lleol, cyrff addysg uwch, colegau addysg bellach, byrddau iechyd a chymdeithasau tai yn Ne Ddwyrain a Chanolbarth Cymru. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn arfer cynnal y fframwaith, ac mae bellach wedi’i drosglwyddo i Gyngor Dinas Caerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i gaffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, a disgwylir y bydd prynwyr a chyflenwyr ar y fframwaith yn cyflawni llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy:



manteision cymunedol



cyflogaeth foesol

cefnogi busnesau bach a chanolig a

rhoi hwb i'r economi leol

Dechreuodd y fframwaith SEWH3 ar 1 Ionawr 2019, am gyfnod o 4 blynedd ac mae’n adeiladu ar y fframwaith presennol.

I ganfod mwy am y buddion y mae’r fframwaith yn ei gynnig, gan gynnwys buddion arfer gorau ariannol, effeithlonrwydd, cymunedol ac arfer gorau, cliciwch yma.

Neu darllenwch am brojectau blaenorol yma.

Y tîm fframwaith

Penny Haywood

Swyddog Caffael

Sewscap Photo Pennybw

Mae gan Penny dros 5 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y Sector Cyhoeddus. Mae wedi gweithio ar gaffaeliaid Gwasanaethau Proffesiynol proffil uchel yn y Llywodraeth Ganolog, ac mae ganddi brofiad helaeth o weithredu a defnyddio systemau rheoli categori ac eGaffael. Yn ei swydd bresennol fel Uwch Arbenigwr Categori yn y Tîm Amgylchedd mae’n gweithio ar; Adeiladu a Chynnal a Chadw Priffyrdd, Gwasanaethau Proffesiynol, Adeiladau Parod ac Adeiladau Dros Dro a Dymchwel ar ran Cyngor Caerdydd, ynghyd â bod yn Swyddog Caffael i’r ddau Fframwaith Cydweithredol, sef Cydweithrediaeth Adeiladu De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru (SEWSCAP) a Fframwaith Priffyrdd De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru (SEWH).

Cysylltwch â fi