Cwestiynau Cyffredin

Dros fywyd y fframwaith SEWH, rydym wedi cyfuno’r cwestiynau cyffredin canlynol:

  • Beth yw Fframwaith?

    Mae’r Rheoliadau Contract Cyhoeddus 2015 yn cyfeirio at Fframwaith gan olygu “cytundeb rhwng un neu fwy o awdurdodau contractio ac un neu fwy o weithredwyr economaidd, a’i ddiben yw sefydlu’r telerau y gellid dyfarnu contractau oddi tanynt yn ystod cyfnod penodol, yn benodol mewn perthynas â phris a, lle bo’n briodol, y swm a ragwelir”.

  • Pwy all ddefnyddio’r Fframwaith?

    Mae deg awdurdod lleol penodol all ddefnyddio’r Fframwaith, ac mae hefyd ar agor i Awdurdodau Lleol Cymru, Llywodraeth Cymru a chyrff masnachu cysylltiedig, Colegau Addysg Bellach Cymru a chyrff Addysg Uwch Cymru. Mae rhestr lawn o’r rheiny all ddefnyddio’r Fframwaith yn yr Hysbysiad Contract. Cliciwch yma i weld yr Hysbysiad Contract.

  • Oes rhaid talu ffi ymuno i ddefnyddio’r Fframwaith?

    Na, cewch ddefnyddio’r Fframwaith am ddim.

  • Pwy yw’r contractwyr sydd ar y rhestr?

    Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r contractwyr.

  • Beth yw’r strwythur lotio a’r bandiau gwerth?

    Cliciwch yma i weld y strwythur lotio.

  • Sut allwn ni gael mynediad at y dogfennau?

    Mae’r holl ddogfennaeth ar gael ar ein gwefan. Os nad ydych eisoes wedi mewngofnodi, bydd angen i chi lenwi’r cytundeb mynediad a’i gyflwyno ar y ffurflen ymholiad ar y wefan. Yna, bydd hyn yn cyrraedd y Tîm Fframwaith fydd yn adolygu’r cais ac yn rhoi manylion mewngofnodi i chi.

  • Pa mor gyflym allwn ni ddefnyddio’r Fframwaith?

    Pan fydd gennych eich manylion mewngofnodi a phan fyddwch wedi rhoi gwybod i’r Tîm Fframwaith am eich project, gallwch ddefnyddio’r Fframwaith yn syth bin. Sicrhewch eich bod chi’n diweddaru’r wefan i gynnwys eich project yn yr ardal aelodau ar y wefan.

  • Pryd mae dyddiad dechrau a diwedd y Fframwaith?

    Mae’r Fframwaith yn weithredol rhwng 1 Ionawr 2019 – 31 Rhagfyr 2022.

  • Pa fath o waith sy’n berthnasol i’r Fframwaith?

    Mae’r Fframwaith yn cynnwys gwaith cynnal a chadw, gwaith project, ac ailwynebu a chynnal arwynebau priffyrdd a chynlluniau peirianneg sifil. Manyleb y Fframwaith yw ‘Manyleb Gwaith Priffyrdd’ a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Sefydlog (HMSO gynt). Gallwch ddod o hyd i ddogfennaeth bellach yn y Fanyleb Gwybodaeth Gwaith a Dogfennau Manylion Safonol pan fyddwch wedi mewngofnodi i’r wefan.

  • Allwch chi ddefnyddio’r Fframwaith ar gyfer projectau a ariennir?

    Dyfarnwyd y Fframwaith drwy broses CSUE Cwynion UE yn unol â’r Rheoliadau Contract Cyhoeddus 2015. Gall y Tîm Fframwaith ddarparu dogfennaeth er mwyn cefnogi’ch cais am arian.

  • Allwn ni gael copi o’r canllaw i ddefnyddwyr?

    Mae canllaw defnyddwyr ar gael ar y wefan. Mae canllawiau pellach ar gael unwaith y byddwch chi’n mewngofnodi i’ch cyfrif.

  • Oes cwestiynau ansawdd safonol ar gael?

    Mae cwestiynau ansawdd safonol ar gael. Mae’r Tîm Fframwaith yn annog y dylid gofyn cwestiynau sy’n benodol i’r project i gael yr ymatebion gorau gan gynigwyr i’r cynllun.

  • Beth yw’r pwysoli y gellid ei ddefnyddio mewn mân gystadlaethau?

    Gellid defnyddio’r pwysoli canlynol:

    • 50% Ansawdd/Technegol a 50% Pris
    • 40% Ansawdd/Technegol a 60% Pris
    • 30% Ansawdd/Technegol a 70% Pris
    • 20% Ansawdd/Technegol a 80% Pris
    • 10% Ansawdd/Technegol a 90% Pris
    • 00% Ansawdd/Technegol a 100% Pris
  • Alla’i Ddyfarnu’n Uniongyrchol?

    Cewch ddyfarnu’n uniongyrchol i’r contractwr Fframwaith â’r pris isaf ar y lot a ddewiswyd yn seiliedig ar yr atodlen gyfraddau. Mewn rhai amgylchiadau, gall fod yn bosibl nad yw hyd at 20% o gost bwriedig y gwaith ar gael yn yr Atodlen Gyfraddau. Yn yr achos hwn, bydd y dyfarniad i Gontractwr Fframwaith ar gyfer y pris isaf yn seiliedig ar yr Atodlen Gyfraddau sydd ar gael. Os does dim modd defnyddio cyfradd ar gyfer elfen ar y gwaith neu wasanaethau, gall y Cyflogwr Posibl ei brisio gan ddefnyddio Cost Diffiniedig a Ffi (fel y’i diffiniwyd yn y Contract NEC) neu’r gost wirioneddol neu ar gost amser fel sy’n briodol. Os nad yw mwy na 20% o’r eitemau ar gael o fewn yr atodlen gyfraddau, dylid tendro’r cynllun yn gystadleuol drwy gystadleuaeth bellach.

  • Pa fath o gontract alla’i ddefnyddio?

    Mae’r Fframwaith yn cynnig amrywiaeth o ffurfiau Contract NEC4 y gellid ei ddefnyddio:

    • NEC4 Opsiwn A Gwaith Contract
    • NEC4 Opsiwn B Gwaith Contract
    • NEC4 Opsiwn C Gwaith Contract
    • NEC4 Opsiwn A Contract Gwasanaethau Proffesiynol
    • NEC4 Opsiwn E Contract Gwasanaethau Proffesiynol
    • NEC4 Ffurflen Fer
    • NEC4 Contractio Swmpus
    • NEC4 Contract Gwasanaeth Tymor
  • Pa fethodoleg sgorio sy’n rhaid i mi eu defnyddio?

    Dyfarnwyd y Fframwaith ar fethodoleg sgorio rhwng 0-5 ond nid ydym wedi nodi bod rhaid defnyddio methodoleg benodol. Gallwch ddefnyddio methodoleg sgorio sy’n addas ar gyfer eich anghenion a systemau tendro.


Hwb Gwybodaeth

Gwahoddir cyflenwyr ar y fframwaith i ddefnyddio ystod o’r dulliau a rhaglenni hyfforddiant a gynhigir gan y sefydliadau partner canlynol sy’n gweithredu ochr yn ochr â’r fframwaith i hyrwyddo arfer gorau:

Contract NEC

Dyma lolfa o gontractau sy’n adlewyrchu ac yn galluogi datblygiadau caffael a rheoli project ac arfer gorau i’r dyfodol. O fframweithiau mawr i brojectau bychan, gellid defnyddio’r dogfennau i gaffael gwaith, gwasanaethau a nwyddau eang iawn. O ganlyniad i welliannau o ran hyblygrwydd, eglurder a symleiddio’r weinyddiaeth, noda NEC bod defnydd contractau NEC3 wedi dod â manteision mawr o ran amser, cost ac ansawdd i brojectau yn y DU a thramor.


Adeiladu Rhagoriaeth Cymru

Fel llais unedig adeiladu yng Nghymru, mae ARhC yn gorff annibynnol sy’n ariannu ei hun sy’n cynrychioli bob rhan o’r cadwyn cyflenwi adeiladu. Mae’n gweithredu fel cyswllt rhwng Llywodraeth Cymru, cleientiaid adeiladu a’r diwydiant adeiladu i wella prosesau adeiladu drwy gydweithio rhwng y partïon ac arferion arloesol a chynaliadwy. Mae hefyd yn rhagweithiol yn ymgyrchu i hyrwyddo rôl y diwydiant i bwysleisio prif strategaethau Llywodraeth Cymru a datblygu amgylchedd adeiledig sy’n addas i’r dyfodol.


Dyfodol Adeiladu Cymru

Mae DAC yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar y diwydiant adeiladu yng Nghymru i dyfu. Gwahoddir cwmnïau yn y diwydiant adeiladu i ymgeisio am gymorth, a bydd y rheiny sy’n gymwys yn derbyn canllawiau 1-2-1 gan ymgynghorwyr profiadol yn y sector. Rhoir cymorth a chyngor busnes cyffredinol i gwmnïau nad ydynt yn bodloni meini prawf y rhaglen gan Fusnes Cymru. Mae DAC yn fenter unigryw a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru a CITB.


Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi

Gall YCGG helpu cwmnïau adeiladu i fodloni gofynion cynaliadwyedd eu cleientiaid drwy ystod o adnoddau sy’n seiliedig ar adeiladu, cynnal a chadw a gweithredu adeiladau, seilwaith a chartrefi mwy cynaliadwy. Rhoddir mynediad at lyfrgell adnoddau penigamp sy’n cynnig: e-ddysgu, ffilmiau, adnoddau a theclynnau dysgu gyda gwybodaeth ardderchog ar gynaliadwyedd, adeiladu oddi ar safle a thechnegau rheoli.


Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA) Cymru

Mae CECA’n cynrychioli 60 o fusnesau contractio peirianneg sifil Cymru, gyda throsiant blynyddol o dros £1bn ac yn cyflogi 6,000 o bobl. Mae’r busnesau hyn yn hanfodol o ran cefnogi cymunedau ledled y wlad, maent yn cyfrannu’n helaeth at ffyniant economaidd Cymru ac yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaeth.


Institute of Civil Engineers (ICE)

Gyda dros 92,000 o aelodau’n rhyngwladol, mae ICE yn cefnogi peirianwyr a thechnegwyr sifil gydol eu gyrfaoedd. Maent yn dyfarnu cymwysterau proffesiynol sef safon y diwydiant, yn arwain ar drafodaethau am seilwaith a’r amgylchedd adeiledig ac yn cynnig lefel hyfforddiant, gwybodaeth a meddwl.


Cytundeb mynediad


Canllawiau defnyddwyr

Mae fersiwn Gymraeg o’r canllaw i ddefnyddwyr ar gael ar gais